P-05-1051 Caniatáu i athletwyr iau Cymru hyfforddi dan yr un rheoliadau Covid â’u cymheiriaid iau yn Lloegr

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Andrew Brown, ar ôl casglu cyfanswm o 219 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Bydd fy meibion yn chwarae pêl-fasged eleni yng nghynghrair genedlaethol Lloegr sy’n dechrau ym mis Tachwedd.

Mae athletwyr iau Lloegr eisoes yn chwarae gemau ymarfer er mwyn hyfforddi ond nid yw plant Cymru yn gallu rhannu pêl hyd yn oed wrth hyfforddi.

Mae hyn yn gosod athletwyr iau Cymru dan anfantais fawr o gymharu â rhai Lloegr.

Mae hyn yn digwydd yn yr holl chwaraeon iau, gan gynnwys pêl-rwyd, rygbi a phêl foli.

Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod ein rheoliadau yn cyfateb i’r rhai ar gyfer athletwyr iau Lloegr i’w wneud yn gyfartal i’r plant.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Bro Morgannwg

·         Canol De Cymru